Mae adroddiadau bod awyrennau wedi targedu safleoedd yn Syria ger y ffin gydag Irac, gan arwain at “ffrwydrad enfawr”.

Daw hyn wrth i’r tensiynau rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran ddwysau.

Yn ôl Arsyllfa Hawliau Dynol Syria roedd yr awyrennau wedi targedu safleoedd sy’n perthyn i filwriaethwyr sy’n gefnogol i Iran, yn ardal Boukamal.

Dywedodd y sefydliad bod yr awyrennau wedi targedu safleoedd storio arfau a cherbydau sy’n perthyn i’r milwriaethwyr.

Daeth adroddiadau am sawl ffrwydrad yn yr ardal.

Daw’r datblygiadau diweddaraf ar ôl i’r Unol Daleithiau ladd y Cadfridog Qassem Soleimani, un o ffigurau mwyaf amlwg byddin Iran, gan ychwanegu at y tensiynau yn y rhanbarth.