Mae nifer y rhai sydd wedi eu lladd ar ôl daeargryn yn Nhwrci wedi codi i o leiaf 270, yn ôl gweinodog llywodraeth y wlad. Ond mae na bryder y gall y ffigwr godi i fwy na 1,000.

Dywedodd  Idris Naim Sahin bod  117 o bobl wedi marw yn ninas Ercis, tra bod 100 wedi eu lladd yn ninas Van. Mae 140 o bobl eraill wedi eu hanafu.

Yn ôl Idris Sahin roedd 80 o adeiladau aml-loriog wedi dymchwel yn Ercis ac roedd pobol wedi eu dal yn gaeth mewn 40 o’r adeiladau.

Roedd y daeargryn yn mesur 7.2 ar raddfa richter gan achosi i nifer o adeiladau yn nwyrain y wlad i ddymchwel.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor William Hague wedi cynnig cymorth i’r wlad.