Mae Prif Weinidog Awstralia Scott Morrison wedi addo £1.6bn ychwanegol o fuddsoddiad i frwydro tanau gwyllt yn y wlad.

Mae e eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn gwario £10.6m i ddefnyddio awyrennau o dramor sy’n cael eu defnyddio i ddiffodd tanau.

Daw hyn wedi i ddau berson arall fynd ar goll yn nhalaith De Cymru Newydd.

Mae glaw a thymheredd is wedi dod a rhyddhad i’r cymunedau sy’n wynebu’r tanau, gyda diffoddwyr tân nawr yn ceisio brwydro’r tanau yn strategol cyn i’r tymheredd godi eto yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Mae’r tanau, a ddechreuodd ym mis Medi, bellach wedi llosgi ardal yr un maint a Croatia, gan ladd 24 o bobol, difrodi 2,000 o dai a difa oddeutu hanner biliwn o anifeiliaid a phlanhigion.

Mae 135 o danau dal yn llosgi ar hyd De Cymru Newydd, gan gynnwys 70 sydd dal ddim dan reolaeth.

Ac yn ôl gwyddonwyr, does dim amheuaeth bod cynhesu byd eang wedi chwarae rôl sylweddol yn y tanau, ynghyd a llystyfiant sych, a gwyntoedd cryfion.