Mae Pedro Sanchez, prif weinidog dros dro Sbaen, wedi methu â sicrhau mwyafrif yn senedd y wlad er mwyn gallu ffurfio llywodraeth.

Ond fe fydd ganddo fe ail gyfle ddydd Mawrth (Ionawr 7), pan fo disgwyl iddo fe ennill digon o bleidleisio i fwrw ati.

Roedd angen 176 o bleidleisiau arno, ond dim ond 166 wnaeth e eu hennill.

Mae’n gobeithio darbwyllo dwy blaid arall i’w gefnogi er mwyn ennill mwyafrif syml o bleidleisiau.