Mae’r Arlywydd Donald Trump yn dweud y bydd yr Unol Daleithiau’n barod i daro targedau yn Iran pe bai’r wlad yn dial am ladd y Cadfridog Qassem Soleimani.

Mae’r Tŷ Gwyn wedi rhoi gwybod i’r Gyngres am y cyrchoedd awyr, fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith os oes perygl y gallai cyrchoedd awyr arwain at ryfel.

Dydy hi ddim yn glir a fydd yr hysbysiad yn cael ei gyhoeddi, gyda rhai yn awgrymu bod Donald Trump yn ceisio celu’r hyn sy’n digwydd rhag y cyhoedd.

Mae lle i gredu bod 52 o dargedau eisoes wedi’u clustnodi, a rhai ohonyn nhw o bwys diwylliannol mawr, yn ôl neges ar gyfrif Twitter yr arlywydd.

Mae’r 52 o safleoedd wedi’u clustnodi, un am bob un o’r gwystlon oedd wedi’u cadw yn Iran yn dilyn protestiadau yn llysgenhadaeth Tehran yn 1979.

Cafodd angladd Qassem Soleimani ei gynnal ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 4).

Wrth ymateb i sylwadau Donald Trump, mae llywodraeth Iran yn dweud bod lladd Qassem Soleimani yn ddigwyddiad sy’n mynd yn groes i gyfreithiau rhyngwladol.