Mae Scott Morrison, prif weinidog Awstralia, wedi galw 3,000 o filwyr wrth gefn i mewn wrth i berygl y tanau gwyllt waethygu ar draws y wlad.

Wrth i’r tymheredd gyrraedd 47 gradd yn Sydney, bu farw dau yn rhagor o bobol.

Ers i dymor y tanau ddechrau ym mis Medi, mae 23 o bobol wedi marw ac mae mwy na 20,000 milltir sgwâr o dir wedi’u colli.

“Rydyn ni’n wynebu 24 awr eithriadol o anodd eto,” meddai, wrth iddo ohirio’i deithiau i India a Japan yn ddiweddarach yn y mis er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa.

Mae perygl erbyn hyn y gallai’r tanau ledu i ardaloedd mwy poblog, gyda’r gwyntoedd cryfion ar eu hanterth hefyd.

Fe fydd rhai o’r milwyr yn dod o Ganada a’r Unol Daleithiau, wrth i’r llynges barhau i symud pobol i draethau mewn ardaloedd diogel, ac mae degau o filoedd yn rhagor yn cael eu hannog i symud.