Mae gwyddonwyr wedi datblygu meddalwedd sydd yn well nac arbenigwyr wrth ddod o hyd i ganser y fron.

Google Health sydd wedi datblygu’r sustem AI (deallusrwydd artiffisial), ac mae sawl corff arall wedi bod ynghlwm â’r gwaith gan gynnwys Deep Mind a Cancer Research UK.

Porodd y sustem AI trwy ddegau ar filoedd o famogramau er mwyn dysgu sut i adnabod canser, cyn rhoi cynnig ar ddata 25,000 o fenywod o’r Deyrnas Unedig  a 3,000 o’r Unol Daleithiau.

Roedd y meddalwedd yn llai tebygol o adnabod canser lle nad oedd canser, a hefyd yn llai tebygol o nodi bod bron yn iawn pan oedd canser yn bresennol.

Cam ymlaen

“Mae ein tîm yn browd iawn o ganfyddiadau’r ymchwil yma,” meddai Dominic King, Pennaeth Google Health yn y Deyrnas Unedig.

“Mae’n awgrymu ein bod yn dod yn agosach at ddatblygu offeryn a all helpu clinigwyr i fod yn fwy cywir wrth adnabod canser y fron.”