Mae cannoedd o filoedd o bobol wedi bod yn cymryd rhan mewn protest flynyddol ar Ddydd Calan yn Hong Kong.

Fe fu gwrthdaro eto rhwng y protestwyr a’r heddlu, gydag o leiaf bump o bobol yn cael eu harestio am ddifrod troseddol ar ôl ymosod ar fanciau a pheiriannau twll yn y wal.

Cafodd peiriannau a goleuadau eu torri, briciau eu rhwygo oddi ar balmentydd a ffyrdd wedi’u hatal.

Bu’n rhaid i’r heddlu chwistrellu’r protestwyr â phupur, nwy a dŵr i’w tawelu ond maen nhw wedi amddiffyn eu hymateb.

Er i bleidiau o blaid democratiaeth ennill yr etholiadau diweddar yn y wlad, does dim arwydd fod y protestiadau am ddod i ben.