Mae trigolion Tunisia wedi bod yn pleidleisio heddiw yn yr etholiad rhydd cyntaf yn eu gwlad, naw mis ar ôl y gwrthryfel a gafodd wared â’r cyn arlywydd Zinedine el Abidine Ben Ali. Mi wnaeth o ffoi o’r wlad ar 14 Ionawr.
Mae disgwyl i’r parti Islamaidd Ennhada ennill y mwyafrif o bleidleisiau, ond tydi hi ddim yn glir os wnawn nhw lwyddo i ennill mwyafrif.
Bydd y pleidleiswyr yn ethol cynulliad 217 sedd a fydd yn mynd ati i lunio cyfansoddiad newydd ac apwyntio llywodraeth dros dro.
Mae’n edrych fod nifer fawr o bobl wedi troi allan i bleidleisio.
Meddai Rachid Ghannouchi, arweinydd Ennhada, “Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol. Mae Tunis wedi cael ei ail eni heddiw, mae’r gwanwyn Arabaidd wedi cael ei aileni heddiw – nid mewn ffordd negyddol o ddymchwel unbeniaid ond mewn ffordd bositif trwy adeiladu systemau democrataidd, system gynrychiadol sy’n cynrychioli’r bobl.”