Mae’r gyrrwr rali Sebastien Loeb wedi ennill y ras RACC Rally de Espana, sy’n golygu ei fod yn awr o flaen Mikko Hirvonen yn y ras i fod yn bencampwr eleni.

Mae’r Ffrancwr bellach wyth pwynt ar y blaen i Hirvonen, sy’n dod o’r Ffindir.

Roedd Loeb wrth ei fodd efo’r canlyniad yn Sbaen y penwythnos hwn, gan ei fod  wedi cael tair ras wael yn y gystadleuaeth cyn hynny.

“Roedd yn rali arbennig o dda i ni,” meddai. “Roedd yn ras berffaith, y baswn i’n dweud, dim camgymeriadau.”

Bydd y frwydr yn parhau yng Nghymru lle cynhelir ras olaf y tymor mewn tair wythnos.