Mae pryderon fod miloedd o eirth coala wedi cael eu lladd mewn tanau gwyllt yn Awstralia, mewn ardal i’r gogledd o Sydney sy’n gynefin pwysig i’r anifeiliaid.

Roedd arfordir talaith De Cymru Newydd yn gartref i hyd at 28,000 o coalas, ond mae’r tanau dros y misoedd diwethaf wedi lleihau eu poblogaeth yn sylweddol.

Mae’r anifeiliaid cynhenid a phoblogaidd hyn o dan fygythiad yn sgil colli cynefinoedd.

“Mae hyd at 30% o’u cynefin wedi cael ei ddinistrio,” meddai Sussan Ley, Gweinidog Amgylchedd y wlad.

“Fe fyddwn ni’n gwybod mwy ar ôl i’r tanau dawelu pan allwn ni wneud asesiad manwl.”

Mae tua 12.35 miliwn o erwau o dir wedi llosgi ledled y wlad yn ystod yr argyfwng tanau gwyllt presennol, gyda naw o bobl wedi cael eu lladd a mwy na 1,000 o gartrefi wedi eu dinistrio.

Mae rhybuddion o beryglon difrifol o dân yn dal mewn grym ledled talaith De Cymru Newydd a Thiriogaeth Prifddinas Awstralia.