Mae o leiaf 28 o bobol wedi marw, ac mae 12 yn rhagor ar goll, yn dilyn teiffŵn yn y Ffilipinas.

Fe fu’n rhaid i filoedd o bobol adael eu cartrefi wrth iddyn nhw ddathlu’r Nadolig yn y wlad Gatholig.

Mae’r teiffŵn wedi amharu’n sylweddol ar gynlluniau pobol i deithio ar y môr ac yn yr awyr dros gyfnod y Nadolig.

Mae wedi arwain at lifogydd a dinistr, a choed a pholion trydan yn cwympo wrth i gartrefi golli eu cyflenwadau trydan.

Roedd gwyntoedd yn teithio i Tsieina ar gyflymdra o hyd at 93 milltir yr awr yn dilyn glaw trwm.

Bu farw’r rhan fwyaf o bobol o ganlyniad i foddi, coed yn cwympo a chael sioc drydannol.

Mae teuluoedd cyfan ymhlith y rhai sydd ar goll.

Mae pobol sydd wedi colli eu cartrefi’n cael lloches mewn campfeydd ac ysgolion.