Malaysia
Mae beiciwr o’r Eidal wedi cael ei ladd mewn damwain yn ystod ras Moto GP Malaysia.

Mi wnaeth Marco Simoncelli golli rheolaeth ar ei feic ar ail lap y ras. Mi wnaeth helmed y beiciwr 24 oed ddod i ffwrdd yn y digwyddiad. Fe aethpwyd ag ef i’r ganolfan feddygol am driniaeth, ond bu farw o’i anafiadau.

Simoncelli yw’r beiciwr Moto GP cyntaf i gael ei ladd ers i Daijiro Katoh farw ar ôl iddo gael ei anafu yn y Grand Prix yn Japan yn 2003.

Wythnos yn ôl, bu farw’r gyrrwr rasio a’r cyn pencampwr IndyCar Dan Wheldon mewn damwain erchyll yn ystod ras yn Las Vegas.