Mae Rwsia a’r Wcrain wedi cytuno i barhau i anfon nwy trwy’r Wcrain i Ewrop am y pum mlynedd nesaf.

Mae’r cyhoeddiad yn tawelu pryderon y gallai Ewrop golli swm sylweddol o’r nwy o Rwsia mae’n dibynnu arno ar gyfer gwresogi a diwydiant.

Mae Rwsia’n anfon tua 40% o’i nwy trwy bibelli sy’n croesi’r Wcrain, ac roedd y cytundeb presennol yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn. Dywed llywodraethau Rwsia a’r Wcrain y bydd y cytundeb newydd wedi’i arwyddo cyn dydd Calan.

Mae disgwyl y bydd 65 biliwn o fetrau ciwbig o nwy yn cael ei gludo o Rwsia trwy’r Wcrain yn 2020 a 40 biliwn o fetrau ciwbig bob blwyddyn wedyn.

Yn y cyfamser, mae disgwyl y bydd Rwsia’n dal i ddatblygu rhwydweithiau dosbarthu a fydd yn osgoi’r Wcrain.