Mae’r heddlu yn Seland Newydd wedi cael gafael ar dros 50,000 o ddrylliau mewn cynllun i’w prynu’n ôl gan eu perchnogion.

Cafodd y cynllun chwe mis ei lansio law yn llaw â gwaharddiad ar arfau lled-awtomatig ar ôl i saethwr ladd 51 o addolwyr mewn dwy fosg yn Christchurch ym mis Mawrth.
Daeth y cynllun i ben am hanner nos nos Wener, gyda rhai digwyddiadau casglu drylliau yn aros yn hwyr yn sgil rhuthr y funud olaf.

Mae’n ymddangos fod 33,000 o bobl wedi ildio 51,000 o drylliau, a 5,000 o arfau eraill mewn amnesti tebyg lle nad oedd perchnogion yn cael iawndal.

Dywedodd gweinidog heddlu Seland Newydd, Stuart Nash, y bydd hi’n fwy anodd i droseddwyr gael gafael ar arfau o’r fath gan eu bod yn tueddu i’w dwyn oddi wrth berchnogion cyfreithlon.

Mae’r llywodraeth yn ystyried cyfyngiadau pellach, gan gynnwys cofrestr ar gyfer pob dryll.