Mae capten y Crysau Duon, Richie McCaw, wedi galw ar ei chwaraewyr i fod ar eu gorau heddiw yn rownd derfynol Pencampwriaeth Rygbi’r Byd yn Auckland.

“Mae’n rhaid i ni fynd allan a pherfformio, gan chwarae’r gêm orau rydan ni erioed wedi ei chwarae mewn ffeinal Cwpan y Byd,” meddai.

Seland Newydd ydi’r ffefrynnau i ennill, ond fel y gŵyr pawb yng Nghymru, tydi Ffrainc ddim yn dîm hawdd i’w curo. Ac fel sydd wedi cael ei ddweud sawl tro dros yr wythnos ddiwethaf, pwy a ŵyr pa dîm Les Bleus fydd yn rhedeg allan heddiw ar faes Eden Park, cartref ysbrydol rygbi Seland Newydd?

Mae asgellwr Ffrainc Vincent Clerc (ie, y chwaraewr a fu’n rhan o’r digwyddiad carden goch yn y rownd gynderfynol) yn dweud y gall Les Bleus roi sioc i’r Crysau Duon, fel y gwnaethon nhw yn 2007, a 1999.

“Mae’r gallu gennym i chwarae’r gêm rydan ni angen ei chwarae i guro’r Crysau Duon,” meddai.

Yn y bencampwriaeth yn 2007, fe gafodd Seland Newydd eu trechu gan Ffrainc 20-18 yn y rownd gogynderfynol a chwaraewyd yn Stadiwm y Mileniwm. Ac yn y rownd gynderfynol yn 1999, Ffrainc enillodd 27-22 yn Dunedin.

“Mi fydd yn rhaid inni roi pwysau arnyn nhw, ac mi fydd yn rhaid i ni fod yn amddiffynnol iawn fel yr oedden ni yn erbyn y Cymry,” meddai.

Tydi Seland Newydd ddim wedi colli ar faes Eden Park ers 1996.