Mae awdurdod cystadleuaeth Ffrainc wedi gosod dirwy o £127 miliwn ar Google am “gymryd mantais o’i safle” yn y farchnad hysbysebion ar-lein.

Cyhoeddodd yr awdurdod y ddirwy ddydd Gwener (Rhagfyr 20), gan ddweud fod y dulliau gaiff eu defnyddio gan Google i hysbysebu yn “anghyfartal a mympwyol”.

Dywed Google eu bod yn bwriadu apelio yn erbyn y penderfyniad, a bod eu polisïau hysbysebu wedi eu dylunio i warchod cwsmeriaid “rhag ecsploetiaeth a hysbysebion ymosodol”.