Mae o leiaf un person wedi marw ar ôl i adeilad tri llawr gwympo yn dilyn daeargryn oedd yn mesur 6.9 ar raddfa Richter yn y Ffilipinas.

Fe ddigwyddodd oddeutu 3.7 milltir i’r gogledd-orllewin o dref Padada yn nhalaith Davao del Sur.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ddaeargrynfeydd yn yr ardal dros y misoedd diwethaf.

Bu farw plentyn mewn pentref ger tref Matanao pan gwympodd wal ei chartref ar ei phen.

Mae nifer o bobol hefyd yn sownd mewn adeilad yn nhref Padada.

Mae’r awdurdodau’n ceisio dod o hyd i bobol dan rwbel nifer o adeiladau a phontydd ar draws y dalaith, ac yn apelio am becynnau bwyd a phebyll ar gyfer y trigolion sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi.