Mae llys wedi clywed bod Julian Assange wedi cael ei atal rhag cael mynediad i dystiolaeth yn ei achos estraddodi.

Aeth sylfaenydd WikiLeaks gerbron ynadon Westminster trwy gyswllt fideo ddoe (dydd Gwener, Rhagfyr 13) wrth i’w achos estraddodi barhau.

Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa yng ngharchar Belmarsh yn Llundain ar hyn o bryd.

Fe fydd gwrandawiad llawn yn cael ei gynnal ym mis Chwefror, lle bydd e’n brwydro yn erbyn cael ei estraddodi i’r Unol Daleithiau.

Mae’n wynebu 18 o gyhuddiadau, gan gynnwys cynllwynio i ymyrryd â chyfrifiaduron ac mae wedi’i amau o gydweithio â Chelsea Manning, cyn-swyddog cudd-wybodaeth y fyddin Americanaidd i gyhoeddi cannoedd o ddogfennau cyfrinachol.

Yr amddiffyniad

Ar ddechrau’r gwrandawiad diweddaraf, fe gyfeiriodd gweithiwr y llys ato fel brodor o Sweden, ac fe ddywedodd mai dinesydd o Awstralia oedd e.

Dywedodd ei gyfreithiwr nad oedd e wedi cael mynediad i dystiolaeth yn ei erbyn, a bod hynny’n gwneud y gwaith o baratoi yn fwy anodd i’r cyfreithwyr.

Mae carchar Belmarsh wedi’i gyhuddo o flaenoriaethu ymweliadau’r teulu dros ymweliadau cyfreithiol, a bod angen mynd i’r afael â hyn.

Ond dywedodd y barnwr nad oes ganddi rym i ymyrryd, er iddi ddweud y byddai’n “ddefnyddiol” pe bai’r cyfreithwyr yn cael mynediad i’w cleient.

Fe fu’r cyfreithwyr yn dadlau eisoes nad oedd cyfrifiadur y carchar yn ddigon addas.

A daw’r pryderon ar ôl i feddygon fynegi pryder mewn llythyr at y Swyddfa Gartref y gallai farw yn y carchar oni bai ei fod e’n derbyn triniaeth feddygol frys.

Mae’r meddygon wedi codi amheuon am ei iechyd pe bai’n sefyll ei brawf cyn derbyn triniaeth.

Cafodd ei garcharu am 50 wythnos ym mis Mai am geisio lloches yn llysgenhadaeth Ecwador er mwyn osgoi cael ei estraddodi i Sweden i wynebu cyhuddiadau rhyw mae’n eu gwadu.

Fis diwethaf, daeth awdurdodau Sweden â’r ymchwiliad hwnnw yn ei erbyn i ben.

Bydd y gwrandawiad nesaf yn cael ei gynnal ddydd Iau (Rhagfyr 19).