Mae disgwyl y bydd archwiliad post mortem yn cael ei wneud o gorff cyn arweinydd Libya, Muammar Gaddafi, heddiw, a hynny yn ninas Misrata.

Mae cannoedd o bobl wedi bod yn ciwio i weld ei gorff, sy’n cael ei gadw mewn ystafell oer ar gyfer storio cig ym Misrata.

Does dim manylion ar hyn o bryd ynglŷn â pha bryd, ac ymhle, y bydd yn cael ei gladdu.

Mae teulu Gaddafi, a’r Cenhedloedd Unedig, wedi galw am ymchwiliad llawn i amgylchiadau ei farwolaeth ar ôl iddo gael ei ddal yn Sirtre dydd Iau.

Mae Nato wedi dweud y bydd eu hymgyrch i amddiffyn trigolion Libya o’r awyr yn dod i ben ar 31 Hydref.