Mae deifar wedi cael ei ladd gan siarc yn Awstralia heddiw – yr ail i gael ei ladd gan siarc oddi ar Orllewin Awstralia mewn 12 diwrnod.

Dywedodd y Rhingyll Heddlu lleol, Gerry Cassidy, fod y dyn o’r Unol Daleithiau o dan y dŵr pan wnaeth siarc 10 troedfedd ymosod arno.

Digwyddodd yr ymosodiad oddi ar Ynys Rottnest, sydd wedi ei lleoli tua 11 milltir o draeth yn ninas Perth lle cipiwyd dyn gan siarc ar Hydref 10.

Nid yw’r Heddlu wedi enwi’r dyn 32 oed oedd yn gweithio yn Awstralia.