Mae rhybudd y gallai llosgfynydd yn Seland Newydd ffrwydro eto, wrth i’r chwilio am oroeswyr ar yr Ynys Wen barhau.

Bu farw o leiaf chwech o bobol hyd yn hyn, ac mae lle i gredu bod dwy ddynes o wledydd Prydain yn yr ysbyty.

Mae pob un ond pump ohonyn nhw mewn cyflwr sefydlog ond difrifol.

Yn ôl yr heddlu, mae’n rhy beryglus iddyn nhw ddychwelyd at y llosgfynydd, ac maen nhw’n annog pobol sydd wedi goroesi i gysylltu â’u teuluoedd i roi gwybod iddyn nhw eu bod nhw’n iawn.

Maen nhw’n dweud bod saith o bobol o Awstralia a dau o Seland Newydd ymhlith y rhai sydd ar goll.

Yn ôl crwner, fe allai gymryd rhai wythnosau cyn bod y meirw’n cael eu hadnabod yn ffurfiol.

Ond mae eu teuluoedd yn dweud bod Julie Richards, 47, a’i merch 20 oed Jessica ymhlith y rhai fu farw.

Y rhai sydd ar goll o Awstralia, yn ôl adroddiadau yw Gavin Dallow, Jessica Edwards, Krystal Browitt, Richard Elzer, Zoe Hoskins a Karla Matthews.

Mae Tipene Maangi a Hayden Inman o Seland Newydd hefyd ar goll.

Mae eraill hefyd, yn ôl yr heddlu, ond dydy eu teuluoedd ddim wedi cael gwybod eto.

Yn ôl yr ysbyty, mae 22 o bobol yn cael cymorth i anadlu o ganlyniad i losgiadau difrifol ac anafiadau eraill. Mae rhai wedi llosgi 95% o’u cyrff.