Mae Rwsia a’r Wcráin wedi croesawu trafodaethau heddwch rhwng y ddwy wlad ym Mharis.

Ond ni lwyddodd y ddwy wlad ddatrys y problemau sylfaenol sydd wedi achosi gwrthdaro yn Nwyrain y Wcráin ers pum mlynedd.

Cafodd cyfarfod rhwng Arlywydd Rwsia Vladimir Putin a’i wrthran Volodymyr Zelenskiy ei gynnal ddydd Llun (Rhagfyr 9) ac aeth y cyfarfod ymlaen am wyth awr.

Daeth y ddwy wlad i gytundeb ynghylch cyfnewid carcharorion yn ogystal â chytuno i stopio’r brwydro sydd eisoes wedi lladd 14,000 o bobl.

“Roedd hi’n gyfartal,” meddai Volodymyr Zelenskiy ar ôl y cyfarfod.