Daeth cadarnhad bellach mai Sanna Marin yw prif weinidog newydd y Ffindir – a’r prif weinidog ieuengaf yn y byd.

A hithau’n 34 oed, bydd hi’n arwain llywodraeth glymblaid sy’n cyfuno pum plaid i’r chwith o’r canol.

Mae hi’n olynu Antti Rinne, oedd wedi camu o’r neilltu’r wythnos ddiwethaf ar ôl colli cefnogaeth un o bleidiau’r glymblaid flaenorol, ond fe fydd e’n parhau i arwain y blaid tan y flwyddyn nesaf.

Menywod yw arweinwyr y pedair plaid arall hefyd, a thair ohonyn nhw yn eu 30au cynnar.

Cafodd Sanna Marin sêl bendith senedd y Ffindir o 99 o bleidleisiau i 70, ac mae gan ei llywodraeth fwyafrif cyfforddus o 117.

Bydd hi’n derbyn mandad gan yr Arlywydd Sauli Niinisto heddiw er mwyn cael dechrau ar ei gwaith.

Bydd hi’n cael mynd i Frwsel ddiwedd yr wythnos i gynrychioli’r llywodraeth mewn uwchgynhadledd Ewropeaidd.