Fe fydd ymchwiliad troseddol yn cael ei gynnal ar ôl i losgfynydd yn Seland Newydd ffrwydro a lladd nifer o bobol.

Mae pump o bobol wedi marw hyd yn hyn, ac mae wyth yn dal ar goll ar Ynys Wen gyda phryderon eu bod nhw hefyd wedi marw.

Mae amodau ansefydlog yr ardal yn ei gwneud hi’n anodd i dimau achub gyrraedd y llosgfynydd.

Roedd oddeutu 47 o bobol ar yr ynys pan ffrwydrodd y llosgfynydd, a chafodd rhai eu llosgi’n ddifrifol.

Mae un person o wledydd Prydain ymhlith y rhai sydd ar goll, ac mae’r awdurdodau’n cydweithio er mwyn cael rhagor o wybodaeth.