Mae pryderon difrifol am ansawdd aer dinas Sydney yn dilyn wythnosau o danau gwyllt, gyda’r lefel ddeuddeg gwaith yn fwy peryglus nag y dylai fod.

Yn ôl arbenigwr o adran iechyd New South Wales, mae ansawdd aer y ddinas ymhlith y gwaethaf a fuodd erioed.

“Mae’r mwg yma yn Sydney yn eithriadol o wael heddiw,” meddai Dr Richard Broome wrth sianel deledu ABC.

“Rydym yn annog pobol i gymryd hyn o ddifri.”

Mewn rhai ardaloedd, all pobol ddim ond gweld 500 metr o’u blaenau a chafodd fferi Sydney ei chanslo ddoe (dydd Mawrth, Rhagfyr 9) gyda bws yn ei lle.

Mewn rhai ardaloedd, cafodd ansawdd yr aer sgôr o 2,552 – mae sgôr o 200 yn cael ei ystyried yn beryglus.

Mae 85 o danau’n dal yn llosgi ar draws y dalaith, a 42 ohonyn nhw’n dal allan o reolaeth.

Mae pobol yn cael eu hannog i aros yn eu cartrefi neu dan do, ac i beidio â gweithio yn yr awyr agored.