Mae perchennog adeilad yn Delhi Newydd lle bu farw 43 o bobol mewn tân wedi cael ei arestio mewn perthynas â’r digwyddiad.

Dywed yr awdurdodau eu bod nhw’n credu mai nam trydanol oedd wedi achosi’r tân, a bod nifer o’r gweithwyr yn cysgu yn yr adeilad dros nos.

Bu’n rhaid i deuluoedd y rhai fu farw yn adeilad y farchnad adnabod eu hanwyliaid drwy edrych ar luniau ar ffonau symudol plismyn.

Roedd nifer ohonyn nhw’n dod o ardaloedd tlawd yn Bihar yn nwyrain India, ac roedden nhw’n ennill cyn lleied â 150 rupee (£1.59) yr awr wrth wneud bagiau, hetiau a dillad.

Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod a oedd y gweithwyr yno’n gweithio’n gyfreithlon.

Bu’n rhaid i’r gwasanaeth tân ddiffodd y fflamau o 100 metr i ffwrdd gan fod y llwybrau’n arwain at yr adeilad yn gul ac yn llawn ceblau.

Yn ôl un o’r trigolion lleol, cafodd ei ddihuno am oddeutu 4.30yb gan bobol yn gweiddi ac fe welodd e ddegau o bobol yn gorwedd ar lawr.

Dywed yr awdurdodau y bydd teuluoedd y rhai fu farw yn derbyn iawndal, ac mae’r prif weinidog Narendra Modi wedi cydymdeimlo â nhw.