Mae 25 o bobol wedi eu lladd a mwy na 130 wedi eu hanafu mewn noson o ymosodiadau gwaedlyd gan saethwyr ar brotestwyr yn erbyn y llywodraeth yn Baghdad.

Dyma un o’r ymosodiadau gwaethaf ers Hydref 1, pan fu miloedd o Iraciaid yn protestio ar y stryd yn galw am ddiwygiadau gwleidyddol a diwedd ar ddylanwad Iran yng ngwleidyddiaeth Irac.

Mae milwyr yn tanio’n rheolaidd ar brotestwyr, gan arwain at lawer o farwolaethau.

Yn ystod yr ymosodiad neithiwr, fe fu’r saethwyr yn gyrru trwy’r rhannau o’r ddinas sydd wedi bod yn ganolbwynt i’r protestio, a pharhaodd y tanio hyd oriau mân y bore.

Mae’r protestwyr yn beio carfannau militaraidd Iracaidd sy’n cael eu cefnogi gan Iran, gan fod carfannau o’r fath wedi cyflawni ymosodiadau tebyg yn erbyn protestwyr yn y brifddinas ac mewn dinasoedd yn ne’r wlad.