Mae arlywydd yr Unol Daliaethau wedi galw Prif Weinidog Canada Justin Trudeau yn “ddauwynebog” mewn ymateb i fideo sydd i weld yn dangos Justin Trudeau ac arweinwyr eraill yn gwneud hwyl am ben Donald Trump yn ystod swper uwchgynhadledd NATO yn Llundain.

Cafodd Boris Johnson, Emmanuel Macron a Justin Trudeau eu dal ar gamera yn gwawdio Donald Trump yn Buckingham Palace.

Pan ofynnwyd cwestiwn i Donald Trump am Justin Trudeau, atebodd drwy ddweud: “Wel, mae o’n ddau wynebog”.

Aeth ymlaen i sialensu Justi Trudeau am faint mae Canada’n ei gyfrannu’n ariannol i NATO.

“Dyw ei ddim yn talu 2% ac mi ddylai o fod yn talu 2%. Mae gan Canada yr arian,” meddai Donald Trump.

“Ylwch, dwi’n cynrychioli’r Unol Daliaethau ac mi ddylai ef fod yn talu mwy na maen nhw’n talu, mae o’n deall hynny, a dwi ddim yn dychmygu ei fod yn hapus ond fel ’na mae hi”.