Mae cyrch o’r awyr gan lywodraeth Syria wedi taro marchnad yn un o drefi’r Cwrdiaid, gan ladd 13 o bobol ddiniwed. Yn y cyfamser, mae bomiau o Twrci wedi glanio ger ysgol yn un arall o drefi’r Cwrdiaid, gan ladd beth bynnag naw o bobol – ac wyth o’r rheiny’n blant.

Fe ddaw’r trais fel rhan o’r tensiwn yng ngogledd Syria, ar y ffin â Twrci.

Mae lluoedd y llywodraeth wedi ail-afael yn y bwriad o geisio meddiannu eto ardal Idlib, tra bod Twrc wedi bod yn canolbwyntioo ar ardaloedd y ffin ac ar geisio cadw’r Cwrdiaid yn eu lle.

Dros y penwythnos, fe fu’r rhan fwya’ o’r ymladd yn ardal Idlib – y cadarnle ola’ i’r Cwrdiaid – ac fe gafodd dwsinau o bobol eu lladd ar y ddwy ochr.