Mae o leiaf 14 o bobol wedi cael eu saethu’n farw ar ffin Mecsico.

Fe fu swyddogion diogelwch mewn brwydr â dynion arfog ac aelodau o gartel cyffuriau.

Buon nhw’n saethu at ei gilydd am fwy nag awr yn Villa Union, tref yn nhalaith Coahuila.

Mae lle i gredu bod pedwar o blismyn ymhlith y rhai fu farw, a bod nifer o bobol eraill ar goll.

Mae lle i gredu bod y cartel wedi ymosod ar swyddfeydd llywodraeth leol, a bod deg aelod wedi cael eu lladd.

Mae lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos cerbydau wedi cael eu llosgi a bwledi yn adeiladau’r llywodraeth leol.

Mae disgwyl i swyddogion diogelwch aros yn yr ardal dros y dyddiau nesaf.

Mae trais yn ymwneud â chyffuriau ar gynnydd ym Mecsico eleni.