Cyrnol Gaddafi cyn ei farwolaeth (Teledu Libya a PA)
Mae dirgelwch wedi codi ynglŷn â’r ffordd y cafodd unben Libya ei ladd.

Mae’n ymddangos bod Muammar al-Gaddafi wedi cael ei ddal cyn iddo gael ei saethu yn ei ben.

Yn ôl pennaeth dros dro newydd y wlad, Mahmoud Jibril, roedd y Cyrnol wedi cael ei daro mewn saethu rhwng dwy garfan pan oedd ar ei ffordd i’r ysbyty.

Ond mae amheuon hefyd ei fod wedi cael ei saethu mewn gwaed oer ar ôl iddo grefu am drugaredd yn ei dref enedigol, Sirte, yr ola’ i syrthio i ddwylo’r llywodraeth newydd.

Yn y cyfamser, mae’r elusen gyfiawnder, Amnesti Rhyngwladol, wedi galw am ddod â phobol i gyfri yn Libya am droseddau tros y blynyddoedd.

Ond mae sylwebyddion yn y wlad hefyd yn rhybuddio am y peryg o wrthdaro a hyd yn oed ryfel cartref wrth i garfannau gwahanol ddial ar ei gilydd ac ymrafael am rym.

Nato’n ystyried

Heddiw, fe fydd arweinwyr lluoedd y gorllewin, Nato, yn ystyried dod â’u cyrchoedd nhw yn y wlad i ben – roedd eu hymosodiadau nhw o’r awyr yn allweddol wrth chwalu amddiffynfeydd y Cyrnol Gaddafi ac yn y cyrchoedd i gipio dinasoedd o’i ddwylo.

Ddoe, fe ddywedodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron, ei fod yn falch o’r rhan yr oedd lluoedd gwledydd Prydain wedi ei gymryd.