Mae Michael Bloomberg, y biliwnydd a chyn-faer Efrog Newydd, wedi lansio’i ymgyrch i fod yn ymgeisydd arlywyddol nesa’r Democratiaid yn yr Unol Daleithiau.

Cyhoeddodd y cyn-Weriniaethwr ei fwriad i sefyll mewn datganiad ar wefan newydd, lle mae’n dweud ei fod e mewn sefyllfa unigryw i herio Donald Trump.

Dywed ei fod e eisiau “ailadeiladu America” ar ôl “gweithredoedd diofal ac anfoesol” Donald Trump sydd, meddai, “yn fygythiad”.

Daw cyhoeddiad Michael Bloomberg ddeufis a hanner cyn agor y bleidlais gychwynnol, gyda rhai yn awgrymu bod y Democratiaid wedi ei chael hi’n anodd dod o hyd i ymgeisydd digon cryf i drechu’r arlywydd.

Bywyd a gyrfa

Dim ond ers blwyddyn mae Michael Bloomberg yn Ddemocrat.

Yn ôl Forbes, y dyn busnes yw’r 11eg dyn mwyaf cyfoethog yn y byd, gyda chyfoeth o ryw 50 biliwn o ddoleri.

Dydy e ddim wedi dweud faint yn union fydd e’n ei wario ar ei ymgyrch ond yn ôl llefarydd, mae’n barod i wario “yr hyn mae’n ei gymryd i drechu Donald Trump”.

Fydd e ddim yn derbyn rhoddion ariannol tuag at ei ymgyrch, a fydd e ddim yn derbyn cyflog pe bai’n dod yn arlywydd, meddai llefarydd.

Ond mae e wedi cael ei feirniadu gan Bernie Sanders ac Elizabeth Warren am “brynu’r etholiad”.

Yn y fideo ar gyfer yr ymgyrch, mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn sydd â gwreiddiau digon cyffredin sydd wedi gweithio’n galed i ennill ei gyfoeth.

Mae’n dweud ei fod e am ganolbwyntio ar feysydd drylliau, newid hinsawdd, mewnfudo a chydraddoldeb.