Mae’r wrthblaid sydd o blaid democratiaeth wedi ennill etholiadau Hong Kong, yn ôl adroddiadau o’r wlad.
Bydd eu buddugoliaeth yn cael ei hystyried yn fodd o wfftio Carrie Lam, prif weithredwr y wlad, sydd wedi’i beirniadu ynghylch y ffordd y mae hi wedi ymateb i brotestiadau ar draws y wlad.
Mae lle i gredu bod y blaid fuddugol wedi ennill rheolaeth ar 17 allan o 18 o gynghorau lleol yn y wlad.
Ac fe allai’r canlyniad roi pwysau ar lywodraeth y wlad o safbwynt sut fyddan nhw’n ymateb i fisoedd o anghydfodau a phrotestiadau.
Er nad oes gan y cynghorau fawr o rym, mae canlyniadau’r etholiadau’n ffordd dda o fesur teimladau’r cyhoedd.
Mae arbenigwyr yn dweud bod democratiaeth wedi sicrhau buddugoliaeth ysgubol, a bod y mwyafrif yn cefnogi’r protestwyr.
Yn ôl Carrie Lam, mae hi a’i llywodraeth yn parchu’r canlyniadau.