Mae’r Pab Ffransis wedi collfarnu arfau niwclear wrth iddo gychwyn ar ymweliad tri diwrnod â Japan.

Wrth gyrraedd Tokyo heddiw, dywedodd fod arno eisiau talu teyrnged i ddioddefwyr bomiau niwclear a chyfarfod goroeswyr “sy’n dal i ddioddef anafiadau’r bennod drychinebus hon yn hanes dyn”.

Fe fydd yn mynd i Nagasaki a Hiroshima yfory ac yn cyfarfod dioddefwyr trychineb niwclear Fukushima yn 2011 ddydd Llun.

Fe fydd wedyn yn cyfarfod yr ymherawdr Naruhito a’r prif weinidog Shinzo Abe.

Mae wedi mynd ymhellach nag unrhyw bab arall wrth gollfarnu perchnogaeth arfau niwclear yn ogystal â’r defnydd ohonynt.

Dywed ei fod yr ymweliad yn golygu llawer iddo hefyd gan mai ei freuddwyd pan oedd yn Jesuit ifanc yn yr Ariannin oedd cael mynd yn genhadwr i Japan.