Mae Ranil Wickremesinghe, prif weinidog Sri Lanca, yn dweud ei fod e am gamu o’r neilltu er mwyn i’r senedd gael dewis ei olynydd i gydweithio â’r Arlywydd Gotabaya Rajapaksa.

Mae disgwyl iddo ymddiswyddo’n ffurfiol yfory (dydd Iau, Tachwedd 20).

Mae’n dweud ei fod e am i’r arlywydd ddewis pwy mae e am ei gael wrth y llyw, ac mae’r penderfyniad hefyd yn hwyluso’r broses o ddewis ei gabinet ei hun.

Yn ôl y gyfraith, fe allai’r prif weinidog aros yn ei swydd tan fis Mawrth cyn i’r senedd gael ei diddymu.

Roedd e eisiau camu o’r neilltu’n gynnar er mwyn galw etholiad cyffredinol, ond fe gafodd ei wrthwynebu gan ei blaid ei hun.

Y dewis i’r Arlywydd Gotabaya Rajapaksa yw penodi llywodraeth dros dro, diddymu’r senedd ym mis Mawrth a galw etholiad cyffredinol neu aros tan fis Awst, pan fydd y senedd yn cael ei diddymu.

Dyfodol ansicr y prif weinidog

Mae rhai yn galw ar Ranil Wickremesinghe i roi’r gorau i arwain ei blaid, ac yntau wedi bod wrth y llyw ers 25 mlynedd.

Mae wedi tyngu llw bum gwaith fel prif weinidog dros gyfnod o wyth mlynedd, ond dydy e erioed wedi gallu cwblhau tymor cyfan heb ryw fath o her i’w awdurdod.

Cafodd ei ethol ddiwethaf yn 2015, a’i ddiswyddo’r llynedd gan y cyn-Arlywydd Maithripla Sirisena cyn cael dychwelyd i’w swydd eto.

Enillodd Gotabaya Rajapaksa yr etholiad arlywyddol dros y penwythnos, gan drechu Sajith Premadasa.

Mae disgwyl i enw’r prif weinidog newydd gael ei gyhoeddi unwaith fydd ymddiswyddiad Ranil Wickremesinghe yn cael ei ffurfioli.

Ar hyn o bryd, y disgwyl yw mai Mahinda Rajapaksa, brawd yr arlywydd, fydd yn cael ei benodi.