Mae dau swyddog carchar oedd yn gwarchod y dyn busnes Jeffrey Epstein ar y noson y bu farw yn wynebu cyhuddiadau o ffugio cofnodion swyddogol.

Yn ôl y cyhuddiadau sydd wedi’u cyhoeddi yn Efrog Newydd, mae Toval Noel a Michael Thomas wedi’u cyhuddo o fethu â goruchwylio’r carcharor bob hanner awr ac o gofnodi eu bod nhw wedi cwblhau’r hyn roedden nhw i fod i’w wneud.

Yn hytrach na mynd i’w oruchwylio, meddai erlynwyr, fe wnaeth y ddau aros wrth eu desgiau, pori’r we a cherdded o amgylch ardal arall yn y carchar.

Mae lle i gredu bod y ddau swyddog wedi bod yn cysgu ar un adeg.

Dyma’r tro cyntaf i unrhyw un gael ei gyhuddo mewn perthynas â marwolaeth y dyn busnes oedd wedi’i gyhuddo o fasnachu at ddibenion rhywiol.

Yn ôl erlynwyr, fe wnaeth Jeffrey Epstein ladd ei hun ac mae camerâu cylch-cyfyng yn dangos nad oedd unrhyw un arall ar gyfyl ei gell ar y pryd.

Mae cyfreithwyr ar ran Michael Thomas yn dweud ei fod e’n “fwch dihangol”, tra bod cyfreithwyr Toval Noel yn gobeithio dod i gytundeb er mwyn osgoi cyfnod o garchar.

Mae’r ddau yn gwadu’r cyhuddiadau, ac mae disgwyl iddyn nhw gael eu rhyddhau ar fechnïaeth.