Mae Gotabaya Rajapaksa, cyn-ysgrifennydd amddiffyn Sri Lanca, yn hawlio buddugoliaeth yn etholiad arlywyddol y wlad.

Mae Sajith Premadasa, y gweinidog tai, wedi ildio yn y ras, gan ddweud y byddai’n parchu dewis y bobol.

Roedd Gotabaya Rajapaksa yn weinidog yn llywodraeth ei frawd, y cyn-arlywydd Mahinda Rajapaksa, ac mae’n addo adfer diogelwch yn y wlad yn dilyn ymosodiadau brawychol y llynedd pan gafodd 269 o bobol eu lladd mewn cyfres o ffrwydradau.

Daeth teyrnasiad y teulu i ben yn 2015 yn dilyn honiadau o gytundebau ariannol amheus gyda Tsieina ac o gadw grym o fewn y teulu.

Fe wnaeth oddeutu 80% o’r 15 miliwn oedd yn gymwys i bleidleisio fwrw eu pleidlais.

Mae disgwyl iddo dyngu llw i ddod yn arlywydd yn Anuradhapura.