Mae o leia’ 115 o wrthryfelwyr wedi cael eu lladd yng ngogledd-ddwyrain Affganistan, mewn ardal sy’n adnabyddus iawn am ddenu dynion milwriaethus o wledydd tramor.

Mae’r cynghreiriaid yn dweud bod y brwydro yn nhalaith Kunar, ger ffin Pacistan, wedi dechrau ers 15 Hydref.

Mae Nato yn dweud bod partenriaid y gynghrair Americanaidd ac Affganistan wedi lladd o leia’ 115 o wrthryfelwyr dros y dyddiau diwethaf trwy gyfres o “weithgareddau llai, sydd wedi dod at ei gilydd i greu effaith mawr.”

Daw’r newyddion diweddaraf wrth i’r gynghrair gynyddu eu hymdrechion mewn mannau eraill o ogledd-ddwyraid Affganistan, yn y gobaith o dargedu rhwydwaith Haqqani – grŵp sydd â chysylltiadau ag al Qaida, ac sy’n gweithredu o Bacistan.