Mae llanc 16 oed a saethodd ddau o bobol yn farw yn ei ysgol yn nhalaith Califfornia wedi marw o anafiadau i’w ben.

Yn dilyn y digwyddiad, lle cafodd tri o bobol eraill eu hanafu, fe wnaeth Nathaniel Tennosuke Berhow saethu ei hun yn ei ben.

Fe fu farw cyn i ymchwilwyr allu ei holi ynghylch yr ymosodiad.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel llanc tawel ond hoffus a doniol, a doedd awgrym cyn yr ymosodiad o’r hyn oedd am ddigwydd.

Yn ôl yr heddlu, roedd yr ymosodiad wedi cael ei gynllunio ymlaen llaw, ond does dim rhagor o fanylion.

Y digwyddiad

Ar ôl cyrraedd yr ysgol ar ddydd Iau, sef diwrnod ei ben-blwydd, fe wnaeth y llanc saethu at gyd-ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd Saugus yn ardal Santa Clarita yn Los Angeles.

Mae lluniau camerâu cylch-cyfyng yn ei ddangos yn cerdded ar ei ben ei hun ac yn gollwng ei fag cyn dechrau saethu.

Fe wnaeth e saethu tua chwe gwaith cyn saethu ei hun, ac roedd y cyfan ar ben mewn oddeutu 16 eiliad.

Roedd wedi bod yn cyfri pob ergyd, meddai’r heddlu.

Y ddau fu farw oedd Gracie Anne Muehlberger, 15, a Dominic Blackwell, 14 ac mae eu rhieni wedi talu teyrnged iddyn nhw.

Mae dwy ferch arall yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty, ac mae bachgen eisoes wedi cael mynd adref. Dydyn nhw ddim wedi cael eu henwi.