Mae bachgen 16 oed sy’n cael ei amau o saethu’n farw dau fyfyriwr mewn ysgol ger Los Angeles, wedi cael ei ddisgrifio fel plentyn “tawel a chlyfar”.

Cafodd pum myfyriwr eu saethu cyn i’r ymosodwr saethu ei hun yn ei ben tua 7.30yb (amser lleol) ddydd Iau, Tachwedd 14.

Bu farw dau fyfyriwr yn yr ysbyty ac mae’r ymosodwr wedi’i anafu’n ddifrifol.

Bu farw merch 16 oed yn y digwyddiad yn Ysgol Uwchradd Saugus yn ninas Santa Clarita  ac roedd bachgen 14 oed wedi marw’n ddiweddarach yn yr ysbyty.

Nid yw’r heddlu wedi adnabod y bachgen sy’n cael ei amau o’r ymosodiad yn gyhoeddus oherwydd ei oedran. Digwyddodd yr ymosodiad ar ei ben-blwydd yn 16 oed.

Mae’r heddlu’n ceisio darganfod beth oedd y cymhelliad y tu ôl i’r ymosodiad a beth oedd y cysylltiad rhyngddo a’r rhai gafodd eu saethu.