Rhai o filwyr y PKK yn 2008 (James Gordon CCA 2.0)
Mae Twrci wedi taro’n ôl yn erbyn gwrthryfelwyr Cwrdaidd, gan groesi’r ffin i mewn i ogledd Irac.

Yn ôl rhai adroddiadau, mae tuag 20 o’r gwrthryfelwyr wedi eu lladd yn y cyrch  – yn ôl sianel deledu NTV, roedd milwyr Twrci wedi mynd 2.5 milltir i mewn  i Irac.

Roedden nhw’n talu’r pwyth am ymosodiadau ddoe gan y gwrthryfelwyr – roedd 24 o swyddogion Twrcaidd wedi eu lladd a 18 wedi eu hanafu yng nghanolfannau’r heddlu a’r fyddin mewn dwy dref ar y ffin.

‘Gormes’

Mae mudiadau fel y PKK – Plaid Gweithwyr Cwrdistan – wedi bod yn ymladd ers blynyddoedd am annibyniaeth, gan gyhuddo Twrci o ormes yn eu herbyn.

Mae llawer o ymgyrchwyr gwleidyddol Cwrdaidd wedi eu carcharu ac, am gyfnod hir, roedd yr iaith Gwrdaidd wedi ei gwahardd yn llwyr.

Heddiw, fe ddywedodd Prif Weinidog Twrci, Recep Tayyip Erdogan, y bydden nhw’n taro’n ôl yn erbyn unrhyw ymosodiad ar y wlad, “o’r tu mewn neu’r tu allan”.

Roedd wedi ymweld â phrif ddinas Cwrdistan yn ddiweddar i alw am ddiwedd ar ymgyrchoedd y PKK a mudiadau eraill.

Y Cwrdiaid

Y Cwrdiaid yw’r genedl ddi-wladwriaeth fwya’, gyda’i thiriogaeth yn croesi nifer o wledydd, gan gynnwys Iran ac Irac, ond mae eu cadarnle yn nwyrain Twrci.