Mae Israel wedi lladd dau jihadwr mewn cyrchoedd awyr tros Gaza, wrth i’r brwydro â Phalesteina gynyddu unwaith eto.

Mae’n golygu bod 16 o Balestiniaid wedi marw yn yr ymladd mwyaf yno ers rhai misoedd.

Yn ôl Israel, mae mwy na 250 o rocedi wedi cael eu hanelu at y wlad ers i streic awyr ladd jihadwr oedd wedi’i gyhuddo o ymosodiadau diweddar.

Mae ysgolion ynghau ger ffin Gaza.

Dydy Hamas ddim wedi ymateb hyd yn hyn, ond mae llywodraeth yr Aifft wedi bod yn gweithio i geisio tawelu’r gwrthdaro, yn ôl swyddogion yn Cairo.

Mae pryderon bod Iran yn rhoi arfau, arian ac arbenigedd i luoedd ger ffin Gaza.