Mae plaid asgell dde Vox wedi ennill tir yn etholiadau Sbaen, a gafodd eu hennill gan y Sosialwyr sydd eisoes mewn grym.

Llwyddodd plaid y prif weinidog Pedro Sanchez i aros mewn grym.

Dyma’r bedwaredd bleidlais mewn pedair blynedd, a’r ail o fewn saith mis, ac mae’n ymddangos bod yr ansicrwydd o fewn y senedd am barhau.

Ar ôl cyfri 99% o’r pleidleisiau, roedd gan y Sosialwyr 120 o seddi – tair yn llai na’r etholiad blaenorol ym mis Ebrill, ac ymhell o’r 176 sydd eu hangen ar gyfer mwyafrif i allu ffurfi llywodraeth gadarn.

Fe gynyddodd Vox eu seddi o 24 i 52, yr ail waith yn unig i blaid Santiago Abascal ennill seddi yn y senedd. Mae’r blaid honno’n sôn o hyd am “adennill Sbaen”.

Mae Vox yn addo gweithredu’n llym yn erbyn ymgyrchwyr annibyniaeth Catalwnia a mewnfudwyr.

Mae Santiago Abascal yn dweud mai eu buddugoliaeth yw’r “orchest wleidyddol fwyaf welodd Sbaen erioed”, wrth iddyn nhw ddod y drydedd plaid fwyaf yn y wlad. Enillodd Plaid y Bobol 87 sedd – i fyny o’r 66 oedd ganddyn nhw – ac mae gan y blaid asgell
dde eithafol Unidas Podemos 35 sedd.

Collodd Cuidadanos (y Dinasyddion) 47 o seddi o’r etholiad ym mis Ebrill, i lawr i 10 o 57, a hynny ar ôl ceisio efelychu Vox a gwrthod helpu’r Sosialwyr i ffurfio llywodraeth.

Mae pleidiau asgell dde Ffrainc, yr Iseldiroedd a’r Eidal wedi llongyfarch Vox ar eu llwyddiant. Fe allai gymryd rhai misoedd i ffurfio llywodraeth yn dilyn y canlyniadau diweddaraf