Mae Evo Morales, arlywydd Bolifia, wedi ymddiswyddo ar ôl i’w fuddugoliaeth etholiadol arwain at brotestiadau a honiadau o dwyll.

Daw ei ymddiswyddiad ar ôl iddo gynnig cynnal etholiad o’r newydd yn sgil honiadau o anghysondebau.

Ond roedd dan bwysau’n fuan wedyn ar ôl i bennaeth y lluoedd arfog alw arno i gamu o’r neilltu.

Wrth ymddiswyddo, mae’n galw am heddwch yn y wlad a therfyn ar wythnosau o brotestio. Roedd e wrth y llyw am 13 o flynyddoedd a naw mis – y cyfnod hiraf yn hanes y wlad – ac roedd yn edrych ymlaen y mis diwethaf at bedwerydd tymor.

Ond fe fu farw tri o bobol mewn protestiadau yn dilyn ei fuddugoliaeth ddiweddaraf. Mae dau o’i weinidogion a thri o’i swyddogion deddfu hefyd wedi cyhoeddi eu bod yn gadael eu swyddi, gydag adroddiadau bod eu teuluoedd wedi cael eu bygwth.

Mae pennaeth Tribiwnlys Etholiadol y wlad hefyd wedi gadael ei swydd, wrth i swyddfa’r twrnai cyffredinol gynnal ymchwiliad.

Arweinydd dadleuol

Mae Evo Morales, a gafodd ei ethol am y tro cyntaf yn 2006, wedi bod yn arweinydd dadleuol.

Fe lwyddodd i gryfhau economi’r wlad yn dilyn cyfres o ddeddfau newydd. Ond fe fu’n gyndyn o adael ei swydd ar hyd y blynyddoedd.

Fe geisiodd am bedwerydd tymor wrth y llyw ar ôl anwybyddu canlyniadau refferendwm yn gosod terfyn amser ar arlywyddion, ac fe gafodd e gefnogaeth y llysoedd.