Mae un person yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty ar ôl cael ei saethu gan yr heddlu yn ystod y protestiadau yn Hong Kong.

Cafodd ei saethu wrth i brotestwyr atal trenau a cherbydau ar y ffyrdd wrth i bobol deithio i’r gwaith heddiw (dydd Llun, Tachwedd 11).

Fe ddaw ar ôl i fyfyriwr farw o’i anafiadau ddydd Gwener (Tachwedd 8).

Yn y digwyddiad diweddaraf, fe fu’r heddlu’n saethu at griw o brotestwyr oedd yn gwisgo mygydau.

Cafodd y protestiwr ei saethu yn ei stumog yn fuan ar ôl i brotestiwr arall ruthro at yr heddlu, ond fe lwyddodd un ohonyn nhw i ddianc.

Fe fu protestiadau ffyrnig yn Hong Kong ers chwe mis bellach, gyda nifer fawr o bobol yn galw am fwy o ddemocratiaeth ac atebolrwydd o safbwynt yr heddlu.

Mae pryderon fod Hong Kong yn colli’r hawliau a gafodd eu rhoi i’r wlad adeg ei hannibyniaeth yn 1997.