Mae academydd hanes blaenllaw yn Rwsia wedi cael ei arestio ar ôl i gorff dynes gael ei ddarganfod yn ei fflat.

Fe fu’n rhaid i’r heddlu dynnu Oleg Sokolov o afon Moika yn St Petersburg a’i arestio ar amheuaeth o’i llofruddio.

Daeth yr heddlu o hyd i freichiau dynol yn ei fag cyn dod o hyd i’r corff.

Yn ôl cyfreithiwr, mae’r hanesydd wedi cyfaddef ei fod yn euog o lofruddio’r ddynes.

Fe gafodd e driniaeth yn yr ysbyty cyn cael ei gludo i’r ddalfa.