Mae protestwyr yn Hong Kong wedi torri ffenestri gorsaf danddaearol a chanolfan siopa wrth iddyn nhw barhau i ddangos eu dicter ar ôl i nifer o wleidyddion o blaid democratiaeth gael eu harestio.

Dyma’r chweched mis o brotestiadau yn y wlad, yn dilyn cyflwyno cyfraith ddadleuol ar estraddodi.

Ond mae’r protestiadau wedi mynd y tu hwnt i’r ffrae tros un polisi erbyn hyn.

Bu’n rhaid cau’r orsaf danddaearol yn rhanbarth Sha Tin, ac fe wnaeth oddeutu dwsin o brotestwyr dorri i mewn i ganolfan siopa yn rhanbarth Tsuen Mun, gydag un yn defnyddio pastwn i dorri ffenestri, tra bod eraill wedi dinistrio byrddau mewn bwyty.

Mae lle i gredu bod tua hanner dwsin o bobol wedi cael eu harestio yn Tsuen Wan.

Mae’r protestwyr yn mynnu bod llywodraeth Hong Kong yn gweithredu’n groes i’r cytundeb annibyniaeth yn 1997.

Arestio gwleidyddion

Ddydd Sadwrn (Tachwedd 9), daeth cadarnhad bod chwech o wleidyddion wedi cael eu harestio ar amheuaeth o darfu ar y cynulliad lleol yn ystod cyfarfod i drafod y bil estraddodi ar Fai 11.

Mae’r chwech bellach wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth.

Cafodd y gwleidyddion eu harestio ddiwrnod ar ôl i bobol ymgynnull i alaru yn dilyn marwolaeth myfyriwr prifysgol mewn maes parcio pan ddefnyddiodd yr heddlu nwy ddagrau i dawelu’r dorf.

Mae’r heddlu’n cael eu beirniadu’n gyson yn sgil eu tactegau llawdrwm.

Mae Hong Kong yn paratoi ar gyfer etholiadau ar Dachwedd 24.

Mae mwy na 3,300 o bobol wedi cael eu harestio ers dechrau’r protestiadau.