Mae digwyddiadau’n cael eu cynnal ledled yr Almaen i gofio cwymp Mur Berlin union 30 mlynedd yn ôl.

Ar ôl misoedd o brotestiadau heddychlon, ildiodd llywodraeth gwladwriaeth Dwyrain yr Almaen ar 9 Tachwedd 1989, gan agor y Mur a chaniatáu i ddinasyddion y wlad groesi’r ffin i’r gorllewin am y tro cyntaf.

Arweiniodd hyn at gyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at gwymp comiwnyddiaeth yng ngwledydd dwyrain Ewrop dros yr wythnosau canlynol, ac uno’r Almaen flwyddyn yn ddiweddarach.

Fe fydd arweinwyr gwleidyddol yr Almaen a gwledydd eraill Ewrop yn cymryd rhan mewn seremonïau yn Berlin heddiw i nodi’r achlysur hanesyddol.

Mae’r prif ddigwyddiad yn cael ei gynnal yn Bernauer Strasse, lle mae un o rhannau olaf y mur a rannai’r ddinas am 28 mlynedd yn dal i sefyll.

Fe fydd arddangosfeydd golau, cyngherddau a thrafodaethau cyhoeddus hefyd yn cael eu cynnal yn y ddinas ac mewn rhannau eraill o’r Almaen.