Mae Sbaen yn cynnal ail etholiad cenedlaethol o fewn blwyddyn, a’r pedwerydd mewn pedair blynedd.

Daw hyn yn sgil aflonyddwch ac ymgyrch newydd am annibyniaeth yng Nghatalwnia sydd wedi rhoi hwb i’r asgell dde eithafol yno.

Mae Sosialwyr Pedro Sanchez yn edrych yn debygol o ennill y mwyafrif o’r seddi, ond llai o seddi na enillon nhw ym mis Ebrill.

Yn y dyddiau diwethaf mae Pedro Sanchez wedi bod yn ceisio denu pleidleiswyr o’r canol gan honni ei fod am ganolbwyntio ar yr economi a chymryd safbwynt mwy llym tuag at ymgyrchwyr yng Nghatalwnia.

Dywed Pedro Sanchez: “Wna i ddim caniatáu i ymgyrch genedlaetholgar eithafol arall gael ei thanio gan gelwydd i danseilio llwyddiant democratiaeth Sbaen.”